Y Ddwy Chwaer: Sioe Gerdd Gwta
Fel rhan o arlwy Gwyl AmGen yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod haf 2020, comisiynwyd sioe gerdd gwta gan Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn. Mae'n cynnwys tair cân sy'n dathlu cyfraniad Gwendoline a Margaret Davies, Gregynog i fywyd diwylliannol Cymru.
Yn perfformio'r canueon mae John Ieuan Jones, Mared Williams a Celyn Cartwright.
Dyma linc i sgwrs am y broses greu ac i'r perfformiadau : Y Ddwy Chwaer
Noson Lawen Robat Arwyn - Dathlu'r 60!
Rhaglen arbennig yn y gyfres Noson Lawen i ddathlu pen-blwydd Robat Arwyn yn 60.
Ymunodd nifer o sêr Cymru efo Robat Arwyn a Chôr Rhuthun i berfformio rhai o'i hoff ganeuon gyda Rhys Meirion yn arwain y noson. Fel syrpreis i bawb, ymddangosodd Bryn Terfel ar ddiwedd y noson i gyd-ganu Brenin y Sêr efo'r côr.
Dyma rai o berfformiadau'r noson:
Comisiynwyd y gwaith gan Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 a chafodd ei berfformio ddwywaith yn ystod yr wythnos yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Ysgrifennwyd geiriau'r caneuon a'r sgript gan Mererid Hopwood a chyfarwyddwyd y sioe gan Betsan Llwyd.
Sir Bryn Terfel oedd seren Hwn yw fy Mrawd, hanes bywyd yr actor a'r canwr, Paul Robeson a'i gysylltiadau cryf â Chymru. Dilynwyd bywyd Robeson trwy lygaid ei ffan mwyaf, Mr Jones (Sir Bryn Terfel) wrth iddo adrodd ei stori wrth Twm, bachgen ifanc sy'n chwilio am arwr.
Portreadwyd Twm gan Steffan Cennydd, a'r unawdwyr eraill oedd John Ieuan Jones, Elain Llwyd, Elin Llwyd, Steffan Prys Roberts a Mared Williams. Hefyd yn cymryd rhan roedd y Black Voices Ensemble o Birmingham, Côrdydd, côr ieuenctid ardal yr Eisteddfod, Côr Meibion Treorci a'r dawnsiwr Matthew Gough.
Mae cyfrol wedi'i gyhoedd gan Sain yn cynnwys 17 o ganeuon y sioe, addas ar gyfer unawdwyr a chorau. Hefyd gan Sain, mae CD Robat Arwyn 3 yn cynnwys 4 o ganeuon Hwn yw fy Mrawd.