Dyma ddetholiad CDs sy'n cynnwys rhai o ganeuon Robat Arwyn. Os am brynu - cysylltwch â'ch siop Gymraeg leol neu â'r cwmni recordiau.

Dyma 40 hoff gân gwrandawyr Radio Cymru. Pleidleisiwyd Rhys Meirion yn canu Anfonaf Angel yn rif #3. Label : Sain
Artistiaid : Amrywiol

Mae un o gorau enwocaf, toreithiog a phoblogaidd Cymru wedi cynnwys Anfonaf Angel ar ei CD newydd. Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Côr Meibion Llanelli

CD sy'n dathlu’r cyfoeth o sioeau cerdd cynhenid Cymraeg sy'n cynnwys Dagrau'r Glaw a Dy Garu o Bell. Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Amrywiol

Cyfanwaith o 8 cân a gomisiynwyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol ac a berfformiwyd gyntaf yn Eisteddfod Dinbych yn 2001. Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Bryn Terfel, Fflur Wyn, Côr Rhuthun

Casgliad o ddeuawdau Cymraeg sy'n cynnwys y Benedictus allan o Er Hwylio'r Haul. Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Bryn Terfel, Rhys Meirion ac artistiaid amrywiol

Casgliad o ganeuon a recordiwyd gan Bryn Terfel dros y blynyddoedd diwethaf, yn cynnwys 4 cân gan Robat Arwyn. Cwmni Recordiau : Union Square Music
Artistiaid : Bryn Terfel ac eraill

Ail CD y triawd poblogaidd - Emyr Gibson, Steffan Lloyd Owen a Bedwyr Pari - yn cynnwys trefniant o Dal y Freuddwyd. Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Trio

Casgliad newydd o weithiau mwyaf poblogaidd Robat Arwyn. Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Amrywiol

Casgliad cyntaf o weithiau mwyaf poblogaidd Robat Arwyn. Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Amrywiol

Sengl elusennol ar gael i'w lawrlwytho o iTunes
Artistiaid : Wynne Evans a'r côr o'r gyfres Wynne Evans ar Waith

Casgliad o ganeuon sy'n cynnwys trefniant Eric Jones o Yfory. Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Côr Meibion Hendy-gwyn

Casgliad o geneuon sy'n cynnwys - Cerdded hyd y llethrau; Mae ddoe wedi mynd; Yfory. Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Lleisiau Mignedd

60 o ganeuon clasuron mwyaf poblogaidd a rhai o gantorion enwoca'r byd, gan gynnwys Bryn Terfel a Rhys Meirion yn canu Benedictus. Label : Union Square Music
Artistiaid : Amrywiol

Dros 500 o gantorion yn perfformio mewn 4 côr. Y caneuon yn cynnwys Fel Un, Gwin Beaujolais a Sêr y Nadolig. Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Pedwar côr o ardal Ceredigion

Artistiaid : Amrywiol

Ail gasgliad o ganeuon gan y côr prysur yma o Ddyffryn Nantlle - Benedictus a Paid Byth a'm Gadael i. Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Lleisiau Mignedd

Cyfanwaith o 15 cân a gomisiynwyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol ac a berfformiwyd yn Eisteddfod Eryri 2005 gan Bryn Terfel, Mari Wyn Williams a Chôr Ieuenctid yr Eisteddfod. Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Huw Llywelyn, Mari Wyn Williams, Côr Rhuthun

Y sioe gerdd yn ei chyfanrwydd gan y cast gwreiddiol. Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Cwmni Ieuenctid Meirion

Casgliad newydd o ganeuon gan y brawd a chwaer, Emyr a Sian Gibson. Mae Bryn Terfel yn ymuno â nhw i ganu trefniant i driawd o'r Agnus Dei allan o Er Hwylio'r Haul. Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Emyr a Sian Gibson

Un o leisiau disglair ifanc Cymru a ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa David Ellis, y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r gororau 2015. Wedi'i chynnwys yn y casgliad yma o hoff ganeuon Ffion mae Anfonaf Angel. Label : Sain
Artist : Ffion Hâf

Casgliad o ganeuon sy'n cynnwys Gwynt yr Hwyr, Gwin Beaujolais a Dim ond Meirch y Môr. Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Bois y Castell

Casgliad o ganeuon gan artistiaid amrywiol, sy'n cynnwys Dy Garu o Bell (John Eifion) a Dim ond Meirch y Môr (Côr Merched Edeyrnion). Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Amrywiol

Dyma gasgliad o ganeuon sy'n dyst i draddodiad cerddorol ffyniannus dyffrynnoedd llechi godidog Gwynedd gan gynnwys Cerdded Hyd y Llethrau gan Lleisiau Mignedd. Label : Sain
Artistiaid : Amrywiol

Casgliad o ganeuon sy'n cynnwys - Emyn Priodas, Mae ddoe wedi mynd, Mynydd yr Olewydd, Dos a gwna dithau'r un modd a Dal Fi. Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Côr Rhuthun a'r Cylch

Recordiad gan y tenor problogaidd, Rhys Meirion, o gasgliad o ganeuon gan Robat Arwyn. Yn perfformio ar y CD efo Rhys mae ei ferch, Elan Meirion, Parti Dyffryn Clwyd, Cerddorfa Sesiwn Cymru yn ogystal â Robat Arwyn ei hun. Cwmni Recordiau : Sain

CD cynta'r unawdydd ifanc disglair o Ddyffryn Conwy. Yma mae gasgliad o ganeuon Cymreig gan gynnwys Anfonaf Angel. Cwmni Recordiau : Sain
Artist : Elgan Llyr Thomas

Casgliad o ganeuon clasurol/canol y ffordd gan rai o artistiaid mwyaf poblogaidd ein hamser. Mae'r CD yn cynnwys y ddeuawd Benedictus gan Bryn Terfel a Rhys Meirion. Cwmni Recordiau : EMI
Artistiaid : Amrywiol

Casgliad o garolau newydd sy'n cynnwys Un Enaid Bach a recordiwyd gan Rhys Meirion a Chôr Rhuthun a'r Cylch. Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Amrywiol

Sengl elusennol Rhys Meirion Nerth y Gân. Cân elusennol i roddwyr organnau a'r elw'n mynd i Gronfa Elen.
I'w lawrlwytho o iTunes.
Artistiaid : Rhys Meirion a Chôr Rhuthun

Corau Ysgol Glanaethwy yn cyflwyno casgliad cyffrous o ganeuon gan gynnwys Yfory ac Er Hwylio'r Haul. Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Corau Ysgol Glanaethwy

Casgliad o ganeuon gan gynnwys Dagrau'r Glaw allan o'r sioe Plas Du. Cwmni Recordiau : Sain
Artist : Rhian Mair Lewis

Trefniannau newydd i biano a thelyn o rai o glasuron cerddoriaeth boblogaidd gyfoes, gan gynnwys Benedictus. Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Annette Bryn Parri a Dylan Cernyw

Dyma albwm cyntaf y soprano boblogaidd Shân Cothi ers 'Passione' yn 2005. Fel y dywed Shân "Un munud rydych ym mharadwys yn hedfan ar synau hyfryd llinyn, telyn a phiano, a'r munud nesaf rydych yn llawn angerdd yn canu nerth eich pen yn llawn o'r hwyl Cymreig. un o'r deuawdau ar yr albwm yw Shân yn canu Anfonaf Angel efo Wynne Evnas. Label : Kissan
Artistiaid : Shân Cothi a'i gwesteion

Casgliad o ganeuon sy'n cynnwys - Pedair Oed, Mae'r gân yn ein huno a Cân Mair. Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Rhys Meirion, Fflur Wyn, Côr Rhuthun

Casgliad o recordiadau newydd sbon gan gorau cymysg, merched a meibion, yn cynnwys Hogia Llanbobman (Ynys Môn), Côr Eifionydd a Chôr Merched Lleisiau’r Cwm (Dyffryn Aman). Yma mae perfformiad newydd gan Côr Dre o Gaernarfon o Adre'n Ol. Label : Sain
Artistiaid : Corau amrywiol

CD yn cynnwys gwaith comisiwn newydd, Dyma Gariad Fel y Moroedd. Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Côr Meibion Bro Aled

Dathlu’r goreuon o fyd y clasuron Cymreig - yn cynnwys Benedictus gan Bryn Terfel a Rhys Meirion. Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Amrywiol

CD ar label Sony gan dri offeiriad Pabyddol o Iwerddon. Caneuon yn cynnwys Ave Maria (Schubert); Panis Angelicus (Frank); Pie Jesu (Lloyd-Webber) a Benedictus (Arwyn)!
Artistiaid : The Priests

CD cyntaf Tri Tenor Cymru - Rhys Meirion, Aled Hall ac Alun Rhys Jenkins. Mae'r CD yn cynnwys y gân Ave Maria (Maddau i Mi) - geiriau a cherddoriaeth gan Robat Arwyn. Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Tri Tenor Cymru

Trydydd CD Annette Bryn Parri a Dylan Cernyw sy'n diddanu efo trefniannau newydd o glasuron hen a chyfoes. Mae'r casgliad yma'n cynnwys Un Enaid Bach ac Anfonaf Angel. Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Annette Bryn Parri a Dylan Cernyw

Yn 2011, unwyd dau gôr, sef Côr Gore Glas a Chôr Aelwyd Bro Ddyfi, i gynnal cyngerdd arbennig yn Neuadd Fawr Aberystwyth. Mae’r CD yn gofnod o’r achlysur arbennig yma ac yn cynnwys 5 o ganeuon Robat Arwyn. Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Côr Gore Glas a Chôr Aelwyd Bro Ddyfi

Rhai o ffefrynnau'r Côr Iau ar un CD - yn cynnwys Ymlaen â'r gân. Cwmni Recordiau : Sain
Artistiaid : Côr Iau Glanaethwy